Datguddiad 2:2-4
Datguddiad 2:2-4 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dw i’n gwybod am bopeth rwyt ti’n ei wneud. Rwyt ti’n gweithio’n galed ac wedi dal ati. Dw i’n gwybod dy fod ti ddim yn gallu diodde’r bobl ddrwg hynny sy’n honni eu bod nhw yn gynrychiolwyr personol i’r Meseia Iesu, ond sydd ddim go iawn. Rwyt ti wedi profi eu bod nhw’n dweud celwydd. Rwyt ti wedi dal ati ac wedi dioddef caledi er fy mwyn i, a heb flino. Ond mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Ti ddim yn fy ngharu i fel roeddet ti ar y cychwyn.
Datguddiad 2:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwn am dy weithredoedd a'th lafur a'th ddyfalbarhad, a gwn na elli oddef y rhai drwg; gwn dy fod wedi rhoi prawf ar y rhai sy'n eu galw eu hunain yn apostolion a hwythau heb fod felly, a chefaist hwy'n gelwyddog; ac y mae gennyt ddyfalbarhad, a dygaist faich trwm er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist. Ond y mae gennyf hyn yn dy erbyn, iti roi heibio dy gariad cynnar.
Datguddiad 2:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th lafur, a’th amynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog: A thi a oddefaist, ac y mae amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist. Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â’th gariad cyntaf.