Datguddiad 19:6-10
Datguddiad 19:6-10 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio’n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel: “Haleliwia! Mae’r Arglwydd Dduw Hollalluog wedi dechrau teyrnasu. Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddu a rhoi clod iddo! Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd, ac mae’r ferch sydd i’w briodi wedi gwneud ei hun yn barod. Mae hi wedi cael gwisg briodas o ddefnydd hardd, disglair a glân.” (Mae’r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.) Wedyn dyma’r angel yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna hyn i lawr: ‘Mae’r rhai sy’n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi’u bendithio’n fawr!’” Wedyn dyma fe’n dweud, “Neges gan Dduw ydy hon, ac mae’n wir.” Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a’i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy’r unig un rwyt i’w addoli! Un sy’n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a dy frodyr a dy chwiorydd sy’n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi’i rhoi gan Iesu. Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”
Datguddiad 19:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A chlywais lais fel sŵn tyrfa fawr a sŵn llawer o ddyfroedd a sŵn taranau mawr yn dweud: “Halelwia! Oherwydd y mae'r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog, wedi dechrau teyrnasu. Llawenhawn a gorfoleddwn, a rhown iddo'r gogoniant, oherwydd daeth dydd priodas yr Oen, ac ymbaratôdd ei briodferch ef. Rhoddwyd iddi hi i'w wisgo liain main disglair a glân, oherwydd gweithredoedd cyfiawn y saint yw'r lliain main.” Dywedodd yr angel wrthyf, “Ysgrifenna: ‘Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd i wledd briodas yr Oen.’ ” Dywedodd wrthyf hefyd, “Dyma wir eiriau Duw.” Syrthiais wrth ei draed i'w addoli, ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr sy'n glynu wrth dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oherwydd tystiolaeth Iesu sy'n ysbrydoli proffwydoliaeth.”
Datguddiad 19:6-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog. Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a’i wraig ef a’i paratôdd ei hun. A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw’r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw’r rhai hyn. Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i’w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth.