Datguddiad 19:11-12
Datguddiad 19:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwelais y nef wedi ei hagor, ac wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir, oherwydd mewn cyfiawnder y mae ef yn barnu ac yn rhyfela. Yr oedd ei lygaid fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd diademau lawer. Yn ysgrifenedig arno yr oedd enw na wyddai neb ond ef ei hun.
Datguddiad 19:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y nefoedd yn llydan ar agor, ac o mlaen i roedd ceffyl gwyn â marchog ar ei gefn. ‘Yr Un ffyddlon’ ydy’r enw arno, a’r ‘Un gwir’. Mae’n gyfiawn yn y ffordd mae’n barnu ac yn ymladd yn erbyn ei elynion. Roedd ei lygaid fel fflam dân, ac roedd llawer o goronau ar ei ben. Roedd ganddo enw wedi’i ysgrifennu arno, a neb yn gwybod yr enw ond fe’i hun.
Datguddiad 19:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele farch gwyn; a’r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela. A’i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun