Datguddiad 19:10
Datguddiad 19:10 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a’i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy’r unig un rwyt i’w addoli! Un sy’n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a dy frodyr a dy chwiorydd sy’n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi’i rhoi gan Iesu. Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”
Datguddiad 19:10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Syrthiais wrth ei draed i'w addoli, ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr sy'n glynu wrth dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oherwydd tystiolaeth Iesu sy'n ysbrydoli proffwydoliaeth.”
Datguddiad 19:10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i’w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth.