Datguddiad 14:9-11
Datguddiad 14:9-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna daeth trydydd angel ar eu hôl yn cyhoeddi’n uchel: “Pwy bynnag sy’n addoli’r anghenfil a’i ddelw, ac sydd â’i farc ar eu talcen neu ar eu llaw, bydd rhaid iddyn nhw yfed gwin digofaint Duw. Mae’n win cryf ac wedi’i dywallt i gwpan ei lid. Byddan nhw’n cael eu poenydio gyda thân a brwmstan yng ngwydd yr angylion sanctaidd a’r Oen. A bydd y mwg o’r tân sy’n eu poenydio yn codi am byth bythoedd. Fydd dim gorffwys o gwbl i’r rhai sy’n addoli’r anghenfil a’i ddelw, nac i unrhyw un sydd wedi’i farcio â’i enw.”
Datguddiad 14:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dilynodd angel arall hwy, y trydydd, a dweud â llais uchel, “Pwy bynnag sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, ac yn derbyn nod ar ei dalcen neu ar ei law, caiff yfed gwin llid Duw, wedi ei arllwys yn ei lawn gryfder i gwpan ei ddigofaint, a chaiff ei boenydio mewn tân a brwmstan gerbron angylion sanctaidd a cherbron yr Oen. Bydd mwg eu poenedigaeth yn codi byth bythoedd, ac ni bydd gorffwys na dydd na nos i'r rhai sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, nac i'r rhai sy'n derbyn nod ei enw ef.”
Datguddiad 14:9-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r trydydd angel a’u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a’i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law, Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen: A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli’r bwystfil a’i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef.