Datguddiad 14:14-15
Datguddiad 14:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Edrychais eto, ac roedd cwmwl gwyn o mlaen i. Roedd un “oedd yn edrych fel person dynol” yn eistedd ar y cwmwl; roedd ganddo goron o aur am ei ben a chryman miniog yn ei law. Yna daeth angel arall allan o’r deml a galw’n uchel ar yr un oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Defnyddia dy gryman i ddechrau medi’r cynhaeaf! Mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed ac mae’n amser medi.”
Datguddiad 14:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna edrychais, ac wele gwmwl gwyn, ac yn eistedd ar y cwmwl un fel mab dyn, a chanddo goron aur ar ei ben a chryman miniog yn ei law. Daeth angel arall allan o'r deml, yn galw â llais uchel ar yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Bwrw dy gryman i'r fedel, oherwydd daeth yr awr i fedi; y mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed.”
Datguddiad 14:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab y dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym. Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml, gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear.