Datguddiad 11:4-5
Datguddiad 11:4-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y rhai hyn yw’r ddwy olewydden, a’r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw’r ddaear. Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o’u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae’n rhaid ei ladd ef.
Datguddiad 11:4-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Nhw ydy’r ddwy goeden olewydd a’r ddwy ganhwyllbren sy’n sefyll o flaen Arglwydd y ddaear. Os oes rhywun yn ceisio gwneud niwed iddyn nhw, mae tân yn dod allan o’u cegau ac yn dinistrio’u gelynion. Dyna sut mae unrhyw un sydd am wneud niwed iddyn nhw yn marw.
Datguddiad 11:4-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma'r ddwy olewydden a'r ddau ganhwyllbren sy'n sefyll gerbron Arglwydd y ddaear. Os myn unrhyw un wneud niwed iddynt, daw tân allan o'u genau a difa'u gelynion; yn y modd hwn y bydd yn rhaid lladd unrhyw un a fyn wneud niwed iddynt.