Datguddiad 11:18
Datguddiad 11:18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y cenhedloedd wedi gwylltio; ond nawr mae’n amser i ti fod yn ddig. Mae’r amser wedi dod i farnu y rhai sydd wedi marw, ac i wobrwyo dy weision y proffwydi a’th bobl dy hun, a’r rhai sy’n parchu dy enw di, yn fawr a bach – a hefyd i ddinistrio’n llwyr y rhai hynny sy’n dinistrio’r ddaear.”
Datguddiad 11:18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llidiodd y cenhedloedd, a daeth dy ddigofaint ac amser barnu'r meirw, a rhoi eu gwobr i'th weision y proffwydi, ac i'r saint ac i'r rhai sy'n ofni dy enw, yn fach a mawr, yr amser i ddinistrio'r rhai sy'n dinistrio'r ddaear.”
Datguddiad 11:18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a’r amser i farnu’r meirw, ac i roi gwobr i’th wasanaethwyr y proffwydi, ac i’r saint, ac i’r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddifetha’r rhai sydd yn difetha’r ddaear.