Datguddiad 11:1-14
Datguddiad 11:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rhoddwyd imi wialen yn ffon fesur, a dywedwyd wrthyf: “Cod a mesura deml Duw a'r allor a'r addolwyr ynddi. Ond anwybydda gyntedd allanol y deml; paid â mesur hwnnw, oherwydd fe'i rhoddwyd i'r Cenhedloedd, ac fe sathrant hwy'r ddinas sanctaidd am ddeufis a deugain. Ac fe roddaf i'm dau dyst gennad i broffwydo mewn gwisg sachliain am y deuddeg cant a thrigain hyn o ddyddiau.” Dyma'r ddwy olewydden a'r ddau ganhwyllbren sy'n sefyll gerbron Arglwydd y ddaear. Os myn unrhyw un wneud niwed iddynt, daw tân allan o'u genau a difa'u gelynion; yn y modd hwn y bydd yn rhaid lladd unrhyw un a fyn wneud niwed iddynt. Y mae gan y rhain awdurdod i gau'r nefoedd fel na bydd i law syrthio yn ystod dyddiau eu proffwydo, ac y mae ganddynt awdurdod ar y dyfroedd i'w troi'n waed ac i daro'r ddaear â phob pla mor aml ag y mynnant. Wedi iddynt orffen eu tystiolaeth, bydd y bwystfil sy'n codi o'r dyfnder yn rhyfela yn eu herbyn, yn eu gorchfygu a'u lladd. Bydd eu cyrff yn strydoedd y ddinas fawr a elwir yn ffigurol yn Sodom a'r Aifft; yno hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd. Am dri diwrnod a hanner, bydd rhai o blith pobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu rhoi mewn bedd. A llawenha trigolion y ddaear trostynt a gorfoleddant, gan anfon rhoddion i'w gilydd; oherwydd bu'r ddau broffwyd hyn yn boenedigaeth i drigolion y ddaear. Ond wedi'r tri diwrnod a hanner, daeth anadl einioes oddi wrth Dduw i mewn iddynt; safasant ar eu traed, a daeth ofn mawr ar y rhai oedd yn eu gwylio. Yna clywsant lais uchel o'r nef yn dweud wrthynt, “Dewch i fyny yma.” Ac aethant i fyny i'r nef mewn cwmwl, a'u gelynion yn eu gwylio. Yr awr honno bu daeargryn mawr, a syrthiodd y ddegfed ran o'r ddinas. Lladdwyd saith mil o bobl yn y daeargryn, a brawychwyd y gweddill a rhoesant ogoniant i Dduw'r nef. Aeth yr ail wae heibio; wele'r trydydd gwae yn dod ar fyrder.
Datguddiad 11:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma wialen hir fel ffon fesur yn cael ei rhoi i mi, a dwedwyd wrtho i, “Dos i fesur teml Dduw a’r allor, a hefyd cyfri faint o bobl sy’n addoli yno. Ond paid cynnwys y cwrt allanol, am fod hwnnw wedi’i roi i bobl o genhedloedd eraill. Byddan nhw’n cael rheoli’r ddinas sanctaidd am bedwar deg dau mis. Yna bydda i’n rhoi awdurdod i’r ddau dyst sydd gen i, a byddan nhw’n gwisgo sachliain ac yn proffwydo am fil dau gant a chwe deg diwrnod.” Nhw ydy’r ddwy goeden olewydd a’r ddwy ganhwyllbren sy’n sefyll o flaen Arglwydd y ddaear. Os oes rhywun yn ceisio gwneud niwed iddyn nhw, mae tân yn dod allan o’u cegau ac yn dinistrio’u gelynion. Dyna sut mae unrhyw un sydd am wneud niwed iddyn nhw yn marw. Maen nhw wedi cael yr awdurdod i wneud iddi beidio glawio yn ystod y cyfnod pan maen nhw’n proffwydo; ac mae ganddyn nhw’r gallu i droi dyfroedd yn waed ac i daro’r ddaear â phlâu mor aml â maen nhw eisiau. Ond pan fydd yr amser iddyn nhw dystio ar ben, bydd yr anghenfil sy’n dod allan o’r pwll diwaelod yn ymosod arnyn nhw, ac yn eu trechu a’u lladd. Bydd eu cyrff yn gorwedd ar brif stryd y ddinas fawr (sy’n cael ei galw yn broffwydol yn ‘Sodom’ ac ‘Aifft’) – y ddinas lle cafodd eu Harglwydd nhw ei groeshoelio. Am dri diwrnod a hanner bydd pobl o bob hil, llwyth, iaith a chenedl yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu claddu. Bydd y bobl sy’n perthyn i’r ddaear wrth eu bodd ac yn dathlu a rhoi anrhegion i’w gilydd, am fod y ddau broffwyd yma wedi bod yn gymaint o boen iddyn nhw. Ond, ar ôl tri diwrnod a hanner daeth anadl oddi wrth Dduw i roi bywyd ynddyn nhw, a dyma nhw’n sefyll ar eu traed. Roedd pawb welodd nhw wedi dychryn am eu bywydau. Wedyn dyma nhw’n clywed llais pwerus o’r nefoedd yn dweud wrthyn nhw, “Dewch i fyny yma.” A dyma gwmwl yn eu codi nhw i fyny i’r nefoedd, tra oedd eu gelynion yn sefyll yn edrych ar y peth yn digwydd. Y funud honno buodd daeargryn mawr a chafodd un rhan o ddeg o’r ddinas ei dinistrio. Cafodd saith mil o bobl eu lladd gan y daeargryn. Roedd pawb oedd yn dal yn fyw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw’n dechrau clodfori Duw’r nefoedd mewn panig. Mae’r ail drychineb wedi digwydd; ond edrychwch mae trydydd ar fin dod.
Datguddiad 11:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen. A’r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sydd yn addoli ynddi. Ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i’r Cenhedloedd: a’r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain. Ac mi a roddaf allu i’m dau dyst, a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain. Y rhai hyn yw’r ddwy olewydden, a’r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw’r ddaear. Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o’u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae’n rhaid ei ladd ef. Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau’r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i’w troi hwynt yn waed, ac i daro’r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont. A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o’r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a’u gorchfyga hwynt, ac a’u lladd hwynt. A’u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a’r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni. A’r rhai o’r bobloedd, a’r llwythau, a’r ieithoedd, a’r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau. A’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o’u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i’w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni’r rhai oedd yn trigo ar y ddaear. Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a’u gwelodd hwynt. A hwy a glywsant lef uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i’r nef mewn cwmwl; a’u gelynion a edrychasant arnynt. Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr: a’r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef. Yr ail wae a aeth heibio; wele, y mae’r drydedd wae yn dyfod ar frys.