Datguddiad 1:4-8
Datguddiad 1:4-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ioan sy’n ysgrifennu, At y saith eglwys yn nhalaith Asia: Dw i’n gweddïo y byddwch yn profi haelioni rhyfeddol a heddwch dwfn gan Dduw, yr Un sydd, ac oedd ac sy’n mynd i ddod; gan yr Ysbryd cyflawn perffaith sydd o flaen yr orsedd; a hefyd gan y Meseia Iesu, y tyst ffyddlon, y cyntaf i gael ei eni i fywyd newydd ar ôl marw, a’r un sydd ag awdurdod dros holl frenhinoedd y ddaear. Mae’n ein caru ni, ac mae wedi marw droson ni i’n gollwng ni’n rhydd fel bod pechod ddim yn ein rheoli ni ddim mwy. Mae’n teyrnasu droson ni ac wedi’n gwneud ni i gyd yn offeiriaid sy’n gwasanaethu Duw, ei Dad! Fe sy’n haeddu pob anrhydedd a nerth, am byth! Amen! Edrychwch! Mae’n dod yn y cymylau! Bydd pawb yn ei weld – hyd yn oed y rhai a’i trywanodd! Bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru o’i achos e. Dyna fydd yn digwydd! Amen! Mae’r Arglwydd Dduw yn dweud, “Fi ydy’r Alffa a’r Omega – Fi ydy’r Un sydd, oedd, ac sy’n mynd i ddod eto, yr Un Hollalluog.”
Datguddiad 1:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ioan at y saith eglwys yn Asia: gras a thangnefedd i chwi oddi wrth yr hwn sydd a'r hwn oedd a'r hwn sydd i ddod, ac oddi wrth y saith ysbryd sydd gerbron ei orsedd, ac oddi wrth Iesu Grist, y tyst ffyddlon, y cyntafanedig oddi wrth y meirw a llywodraethwr brenhinoedd y ddaear. I'r hwn sydd yn ein caru ni ac a'n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau â'i waed, ac a'n gwnaeth yn urdd frenhinol, yn offeiriaid i Dduw ei Dad, iddo ef y bo'r gogoniant a'r gallu byth bythoedd! Amen. Wele, y mae'n dyfod gyda'r cymylau, a bydd pob llygad yn ei weld, ie, a'r rhai a'i trywanodd, a bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru o'i blegid ef. Boed felly! Amen. “Myfi yw Alffa ac Omega,” medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd a'r hwn oedd a'r hwn sydd i ddod, yr Hollalluog.
Datguddiad 1:4-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a’r hwn a fu, a’r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef; Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o’r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun, Ac a’n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef; iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Wele, y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau; a phob llygad a’i gwêl ef, ie, y rhai a’i gwanasant ef: a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef. Felly, Amen. Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.