Salm 91:5-7
Salm 91:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos, na rhag saeth yn hedfan yn y dydd, rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch, na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd. Er i fil syrthio wrth dy ochr, a deng mil ar dy ddeheulaw, eto ni chyffyrddir â thi.
Rhanna
Darllen Salm 91Salm 91:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid bod ag ofn dim sy’n dy ddychryn yn y nos, na’r saeth sy’n hedfan yn y dydd; yr haint sy’n llechu yn y tywyllwch, na’r dinistr sy’n taro’n sydyn ganol dydd. Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith, a deg mil ar y dde, ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd.
Rhanna
Darllen Salm 91Salm 91:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd: Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd. Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos atat ti.
Rhanna
Darllen Salm 91