Salm 85:1-13
Salm 85:1-13 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
O ARGLWYDD, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir, ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto. Ti wedi symud euogrwydd dy bobl, a maddau eu pechodau i gyd. Saib Ti wedi tynnu dy lid yn ôl, a throi cefn ar dy wylltineb. Tro ni’n ôl, O Dduw, ein hachubwr! Rho heibio dy ddicter tuag aton ni. Wyt ti’n mynd i fod yn ddig gyda ni am byth? Wyt ti’n mynd i aros yn wyllt am genedlaethau? Plîs, wnei di’n hadfywio ni unwaith eto, i dy bobl gael dathlu beth wnest ti! O ARGLWYDD, dangos dy gariad ffyddlon i ni. Plîs, achub ni! Dw i’n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i’w ddweud. Ydy wir! Mae’r ARGLWYDD yn addo heddwch i’r rhai sy’n ei ddilyn yn ffyddlon – ond rhaid iddyn nhw beidio troi’n ôl at eu ffolineb! Mae e’n barod iawn i achub y rhai sy’n ei ddilyn e; wedyn bydd ei ysblander i’w weld yn ein tir eto. Bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd; bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu. Bydd gwirionedd yn tarddu o’r tir, a chyfiawnder yn edrych i lawr o’r nefoedd. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pethau da i ni; a bydd y tir yn rhoi ei gnydau. Bydd cyfiawnder yn mynd o’i flaen ac yn paratoi’r ffordd iddo.
Salm 85:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O Arglwydd, buost drugarog wrth dy dir; adferaist lwyddiant i Jacob. Maddeuaist gamwedd dy bobl, a dileu eu holl bechod. Sela Tynnaist dy holl ddigofaint yn ôl, a throi oddi wrth dy lid mawr. Adfer ni eto, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a rho heibio dy ddicter tuag atom. A fyddi'n digio wrthym am byth, ac yn dal dig atom am genedlaethau? Oni fyddi'n ein hadfywio eto, er mwyn i'th bobl lawenhau ynot? Dangos i ni dy ffyddlondeb, O ARGLWYDD, a rho dy waredigaeth inni. Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW, oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwch i'w bobl ac i'w ffyddloniaid, rhag iddynt droi drachefn at ffolineb. Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy'n ei ofni, fel bod gogoniant yn aros yn ein tir. Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod, a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd. Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear, a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni, a'n tir yn rhoi ei gnwd. Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen, a heddwch yn dilyn yn ôl ei droed.
Salm 85:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Graslon fuost, O ARGLWYDD, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob. Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela. Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter. Tro ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym. Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth? Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti? Dangos i ni, ARGLWYDD, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth. Gwrandawaf beth a ddywed yr ARGLWYDD DDUW: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. Yr ARGLWYDD hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.