Salm 8:3-6
Salm 8:3-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth edrych allan i’r gofod, a gweld gwaith dy fysedd, y lleuad a’r sêr a osodaist yn eu lle, Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam cymryd sylw o un person dynol? Rwyt wedi’i wneud ond ychydig is na’r bodau nefol, ac wedi’i goroni ag ysblander a mawredd! Rwyt wedi’i wneud yn feistr ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei awdurdod
Salm 8:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r sêr, a roddaist yn eu lle, beth yw meidrolyn, iti ei gofio, a'r teulu dynol, iti ofalu amdano? Eto gwnaethost ef ychydig islaw duw a'i goroni â gogoniant ac anrhydedd. Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei draed
Salm 8:3-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef