Salm 8:1-4
Salm 8:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ARGLWYDD, ein brenin, mae dy enw di mor fawr drwy’r byd i gyd! Mae dy ysblander yn gorchuddio’r nefoedd yn gyfan! Gyda lleisiau plant bach a babanod rwyt yn dangos dy nerth, yn wyneb dy elynion, i roi diwedd ar y gelyn sy’n hoffi dial. Wrth edrych allan i’r gofod, a gweld gwaith dy fysedd, y lleuad a’r sêr a osodaist yn eu lle, Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam cymryd sylw o un person dynol?
Salm 8:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! Gosodaist dy ogoniant uwch y nefoedd, codaist amddiffyn rhag dy elynion o enau babanod a phlant sugno, a thawelu'r gelyn a'r dialydd. Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r sêr, a roddaist yn eu lle, beth yw meidrolyn, iti ei gofio, a'r teulu dynol, iti ofalu amdano?
Salm 8:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
ARGLWYDD ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef?