Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 73:1-26

Salm 73:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ydy wir, mae Duw mor dda wrth Israel; wrth y rhai sydd â chalon lân. Ond bu bron i mi faglu; roeddwn i bron iawn â llithro. Rôn i’n genfigennus o’r rhai balch, wrth weld pobl ddrwg yn llwyddo. Does dim byd yn eu rhwymo nhw; maen nhw’n iach yn gorfforol. Dŷn nhw ddim yn cael eu hunain i helyntion fel pobl eraill, a ddim yn dioddef fel y gweddill ohonon ni. Maen nhw’n gwisgo balchder fel cadwyn aur am eu gwddf, a chreulondeb ydy’r wisg amdanyn nhw. Maen nhw’n llond eu croen, ac mor llawn ohonyn nhw eu hunain hefyd! Maen nhw’n gwawdio ac yn siarad yn faleisus, ac mor hunanhyderus wrth fygwth gormesu. Maen nhw’n siarad fel petai piau nhw’r nefoedd, ac yn strytian yn falch wrth drin y ddaear. Ac mae pobl Dduw yn dilyn eu hesiampl, ac yn llyncu eu llwyddiant fel dŵr. “Na, fydd Duw ddim yn gwybod!” medden nhw. “Ydy’r Goruchaf yn gwybod unrhyw beth?” Edrychwch! Dyna sut rai ydy pobl ddrwg! Yn malio dim, ac yn casglu cyfoeth. Mae’n rhaid fy mod i wedi cadw fy nghalon yn lân i ddim byd, wedi bod mor ddiniwed wrth olchi fy nwylo! Dw i wedi cael fy mhlagio’n ddi-baid, ac wedi dioddef rhyw gosb newydd bob bore. Petawn i wedi siarad yn agored fel hyn byddwn i wedi bradychu dy bobl di. Rôn i’n ceisio deall y peth, a doedd e’n gwneud dim sens, nes i mi fynd i mewn i deml Dduw a sylweddoli beth oedd tynged y rhai drwg! Byddi’n eu gosod nhw mewn lleoedd llithrig, ac yn gwneud iddyn nhw syrthio i ddinistr. Byddan nhw’n cael eu dinistrio mewn chwinciad! Byddan nhw’n cael eu hysgubo i ffwrdd gan ofn. Fel breuddwyd ar ôl i rywun ddeffro, byddi di’n deffro, O ARGLWYDD, a fyddan nhw’n ddim byd ond atgof. Dw i wedi bod yn chwerw fel finegr, a gadael i’r cwbl gorddi tu mewn i mi. Dw i wedi bod mor dwp ac afresymol. Dw i wedi ymddwyn fel anifail gwyllt o dy flaen di. Ac eto, dw i’n dal gyda ti; rwyt ti’n gafael yn dynn ynof fi. Ti sy’n dangos y ffordd ymlaen i mi, a byddi’n fy nerbyn ac yn fy anrhydeddu. Pwy sydd gen i yn y nefoedd ond ti? A does gen i eisiau neb ond ti ar y ddaear chwaith. Mae’r corff a’r meddwl yn pallu, ond mae Duw’n graig ddiogel i mi bob amser.

Salm 73:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn, a'r Arglwydd i'r rhai pur o galon. Yr oedd fy nhraed bron â baglu, a bu ond y dim i'm gwadnau lithro, am fy mod yn cenfigennu wrth y trahaus ac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus. Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau; y mae eu cyrff yn iach a graenus. Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill, ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill. Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau, a thrais yn wisg amdanynt. Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster, a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb. Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar, yn sôn yn ffroenuchel am ormes. Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd, ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear. Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt, ac ni chânt unrhyw fai ynddynt. Dywedant, “Sut y mae Duw'n gwybod? A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?” Edrych, dyma hwy y rhai drygionus— bob amser mewn esmwythyd ac yn casglu cyfoeth. Yn gwbl ofer y cedwais fy nghalon yn lân, a golchi fy nwylo am fy mod yn ddieuog; ar hyd y dydd yr wyf wedi fy mhoenydio, ac fe'm cosbir bob bore. Pe buaswn wedi dweud, “Fel hyn y siaradaf”, buaswn wedi bradychu cenhedlaeth dy blant. Ond pan geisiais ddeall hyn, yr oedd yn rhy anodd i mi, nes imi fynd i gysegr Duw; yno y gwelais eu diwedd. Yn sicr, yr wyt yn eu gosod ar fannau llithrig, ac yn gwneud iddynt syrthio i ddistryw. Fe ânt i ddinistr ar amrantiad, fe'u cipir yn llwyr gan ddychrynfeydd. Fel breuddwyd ar ôl ymysgwyd, y maent wedi mynd; wrth ddeffro fe'u diystyrir fel hunllef. Pan oedd fy nghalon yn chwerw a'm coluddion wedi eu trywanu, yr oeddwn yn ddwl a diddeall, ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat. Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser; yr wyt yn cydio yn fy neheulaw. Yr wyt yn fy arwain â'th gyngor, ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant. Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti? Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear. Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.

Salm 73:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yn ddiau da yw DUW i Israel; sef i’r rhai glân o galon. Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad. Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol. Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini. Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill. Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn. Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth. Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel. Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear. Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn. Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr DUW? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf? Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud. Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd. Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore. Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam. Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i; Hyd onid euthum i gysegr DUW: yna y deellais eu diwedd hwynt. Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr. Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn. Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, y dirmygi eu gwedd hwynt. Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau. Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di. Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau. A’th gyngor y’m harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant. Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi. Pallodd fy nghnawd a’m calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw DUW yn dragywydd.