Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 72:1-20

Salm 72:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin, a'th gyfiawnder i fab y brenin. Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn, a'th rai anghenus yn gywir. Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl, a'r bryniau â chyfiawnder. Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl, a gwaredu'r rhai anghenus, a dryllio'r gorthrymwr. Bydded iddo fyw tra bo haul a chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth. Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd, ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear. Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau, a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad. Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr, ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear. Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen, ac i'w elynion lyfu'r llwch. Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd ddod ag anrhegion iddo, ac i frenhinoedd Sheba a Seba gyflwyno eu teyrnged. Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen, ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu. Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa, a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr. Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus, ac yn gwaredu bywyd y tlodion. Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm, ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg. Hir oes fo iddo, a rhodder iddo aur o Sheba; aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad, a chaffed ei fendithio bob amser. Bydded digonedd o ŷd yn y wlad, yn tyfu hyd at bennau'r mynyddoedd; a bydded ei gnwd yn cynyddu fel Lebanon, a'i rawn fel gwellt y maes. Bydded ei enw'n aros hyd byth, ac yn para cyhyd â'r haul; a'r holl genhedloedd yn cael bendith ynddo ac yn ei alw'n fendigedig. Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel; ef yn unig sy'n gwneud rhyfeddodau. Bendigedig fyddo'i enw gogoneddus hyd byth, a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant. Amen ac Amen. Diwedd gweddïau Dafydd fab Jesse.

Salm 72:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

O Dduw, rho’r gallu i’r brenin i farnu’n deg, a gwna i fab y brenin wneud beth sy’n iawn. Helpa fe i farnu’r bobl yn ddiduedd, a thrin dy bobl anghenus yn iawn. Boed i’r mynyddoedd gyhoeddi heddwch a’r bryniau gyfiawnder i’r bobl. Bydd e’n amddiffyn achos pobl dlawd, yn achub pawb sydd mewn angen ac yn cosbi’r rhai sy’n eu cam-drin. Bydd pobl yn dy addoli tra bydd haul yn yr awyr, a’r lleuad yn goleuo, o un genhedlaeth i’r llall. Bydd fel glaw mân yn disgyn ar dir ffrwythlon, neu gawodydd trwm yn dyfrhau’r tir. Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau, ac i heddwch gynyddu tra bo’r lleuad yn yr awyr. Boed iddo deyrnasu o fôr i fôr, ac o afon Ewffrates i ben draw’r byd! Gwna i lwythau’r anialwch blygu o’i flaen, ac i’w elynion lyfu’r llwch. Bydd brenhinoedd Tarshish a’r ynysoedd yn talu trethi iddo; brenhinoedd Sheba a Seba yn dod â rhoddion iddo. Bydd y brenhinoedd i gyd yn plygu o’i flaen, a’r cenhedloedd i gyd yn ei wasanaethu. Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen, a’r tlawd sydd heb neb i’w helpu. Mae’n gofalu am y gwan a’r anghenus, ac yn achub y tlodion. Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais; mae eu bywyd nhw’n werthfawr yn ei olwg. Hir oes iddo! Boed iddo dderbyn aur o Sheba; boed i bobl weddïo drosto’n ddi-baid a dymuno bendith Duw arno bob amser. Boed digonedd o ŷd yn y wlad – yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd. Boed i’r cnydau lwyddo fel coed Libanus. Boed i bobl y trefi ffynnu fel glaswellt. Boed iddo fod yn enwog am byth; a boed i’w linach aros tra bod haul yn yr awyr. Boed i bobl gael eu bendithio drwyddo, ac i genhedloedd weld mor hapus ydy e. Bendith ar yr ARGLWYDD Dduw! Duw Israel, yr unig un sy’n gwneud pethau rhyfeddol. Bendigedig fyddo’i enw gwych am byth! Boed i’w ysblander lenwi’r byd i gyd. Ie! Amen ac Amen. Dyma ddiwedd y casgliad yma o weddïau Dafydd fab Jesse.

Salm 72:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

O DDUW, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder. Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a’th drueiniaid â barn. Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder. Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd. Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd. Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear. Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad. Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear. O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch. Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd. Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef. Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo. Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus. Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef. Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef. Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear. Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig. Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD DDUW, DUW Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau. Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen. Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.