Salm 68:11-20
Salm 68:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r Arglwydd yn datgan y gair, ac y mae llu mawr yn cyhoeddi'r newydd da fod brenhinoedd y byddinoedd yn ffoi ar frys; y mae'r merched gartref yn rhannu ysbail— er eu bod wedi aros ymysg y corlannau— y mae adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian, a'i hesgyll yn aur melyn. Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd yno, yr oedd yn eira ar Fynydd Salmon. Mynydd cadarn yw Mynydd Basan, mynydd o gopaon yw Mynydd Basan. O fynydd y copaon, pam yr edrychi'n eiddigeddus ar y mynydd lle dewisodd Duw drigo, lle bydd yr ARGLWYDD yn trigo am byth? Yr oedd cerbydau Duw yn ugain mil, yn filoedd ar filoedd, pan ddaeth yr Arglwydd o Sinai mewn sancteiddrwydd. Aethost i fyny i'r uchelder gyda chaethion ar dy ôl, a derbyniaist anrhegion gan bobl, hyd yn oed gwrthryfelwyr, er mwyn i'r ARGLWYDD Dduw drigo yno. Bendigedig yw'r Arglwydd, sy'n ein cario ddydd ar ôl dydd; Duw yw ein hiachawdwriaeth. Sela Duw sy'n gwaredu yw ein Duw ni; gan yr ARGLWYDD Dduw y mae dihangfa rhag marwolaeth.
Salm 68:11-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ARGLWYDD a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent. Brenhinoedd byddinog a ffoesant ar ffrwst: a’r hon a drigodd yn tŷ, a rannodd yr ysbail. Er gorwedd ohonoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian, a’i hadenydd ag aur melyn. Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon. Mynydd DUW sydd fel mynydd Basan; yn fynydd cribog fel mynydd Basan. Paham y llemwch, chwi fynyddoedd cribog? dyma y mynydd a chwenychodd DUW ei breswylio; ie, preswylia yr ARGLWYDD ynddo byth. Cerbydau DUW ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion: yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y cysegr. Dyrchefaist i’r uchelder, caethgludaist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; ie, i’r rhai cyndyn hefyd, fel y preswyliai yr ARGLWYDD DDUW yn eu plith. Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni; sef DUW ein hiachawdwriaeth. Sela. Ein DUW ni sydd DDUW iachawdwriaeth; ac i’r ARGLWYDD DDUW y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.