Salm 68:1-10
Salm 68:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded i Dduw godi, ac i'w elynion wasgaru, ac i'r rhai sy'n ei gasáu ffoi o'i flaen. Fel y chwelir mwg, chwâl hwy; fel cwyr yn toddi o flaen tân, bydded i'r drygionus ddarfod o flaen Duw. Ond y mae'r cyfiawn yn llawenhau; y maent yn gorfoleddu gerbron Duw ac yn ymhyfrydu mewn llawenydd. Canwch i Dduw, molwch ei enw, paratowch ffordd i'r un sy'n marchogaeth trwy'r anialdir; yr ARGLWYDD yw ei enw, gorfoleddwch o'i flaen. Tad yr amddifaid ac amddiffynnydd y gweddwon yw Duw yn ei drigfan sanctaidd. Mae Duw yn gosod yr unig mewn cartref, ac yn arwain allan garcharorion mewn llawenydd; ond y mae'r gwrthryfelwyr yn byw mewn diffeithwch. O Dduw, pan aethost ti allan o flaen dy bobl, a gorymdeithio ar draws yr anialwch, Sela crynodd y ddaear a glawiodd y nefoedd o flaen Duw, Duw Sinai, o flaen Duw, Duw Israel. Tywelltaist ddigonedd o law, O Dduw, ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd ar ddiffygio; cafodd dy braidd le i fyw ynddi, ac yn dy ddaioni darperaist i'r anghenus, O Dduw.
Salm 68:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cyfoded DUW, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o’i flaen ef. Chweli hwynt fel chwalu mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen DUW. Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant gerbron DUW; a byddant hyfryd o lawenydd. Cenwch i DDUW, canmolwch ei enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i enw yn JAH, a gorfoleddwch ger ei fron ef. Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon, yw DUW, yn ei breswylfa sanctaidd. DUW sydd yn gosod yr unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir. Pan aethost, O DDUW, o flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela: Y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant o flaen DUW: Sinai yntau a grynodd o flaen DUW, sef DUW Israel. Dihidlaist law graslon, O DDUW, ar dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino. Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O DDUW, yr wyt yn darparu i’r tlawd.