Salm 63:1-8
Salm 63:1-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
O Dduw, ti ydy fy Nuw i! Dw i wir yn dy geisio di. Mae fy enaid yn sychedu amdanat. Mae fy nghorff yn dyheu amdanat, fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr. Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr, a gweld dy rym a dy ysblander! Profi dy ffyddlondeb di ydy’r peth gorau am fywyd, ac mae fy ngwefusau’n dy foli di! Dw i’n mynd i dy foli fel yma am weddill fy mywyd; codi fy nwylo mewn gweddi, a galw ar dy enw. Dw i wedi fy modloni’n llwyr, fel ar ôl bwyta gwledd! Dw i’n canu mawl i ti â gwefusau llawen. Dw i’n meddwl amdanat wrth orwedd ar fy ngwely, ac yn myfyrio arnat ti yng nghanol y nos; Dw i’n cofio fel y gwnest ti fy helpu – rôn i’n gorfoleddu, yn saff dan gysgod dy adenydd. Dw i am lynu’n dynn wrthot ti; dy law gref di sy’n fy nghynnal i.
Salm 63:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddŵr. Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr, a gweld dy rym a'th ogoniant. Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd; am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu. Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes, ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw. Caf fy nigoni, fel pe ar fêr a braster, a moliannaf di â gwefusau llawen. Pan gofiaf di ar fy ngwely, a myfyrio amdanat yng ngwyliadwriaethau'r nos— fel y buost yn gymorth imi, ac fel yr arhosais yng nghysgod dy adenydd— bydd fy enaid yn glynu wrthyt; a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal.
Salm 63:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ti, O DDUW, yw fy NUW i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr; I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr. Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant. Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw. Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar: Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos. Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf. Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal.