Salm 6:6-9
Salm 6:6-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dw i wedi blino tuchan. Mae fy ngwely’n wlyb gan ddagrau bob nos; mae dagrau wedi socian lle dw i’n gorwedd. Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder, dw i wedi ymlâdd o achos fy holl elynion. Ewch i ffwrdd, chi sy’n gwneud drwg! Mae’r ARGLWYDD wedi fy nghlywed i’n crio. Mae wedi fy nghlywed i’n pledio am help. Bydd yr ARGLWYDD yn ateb fy ngweddi.
Salm 6:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan; bob nos y mae fy ngwely'n foddfa, trochaf fy ngobennydd â'm dagrau. Pylodd fy llygaid gan ofid, a phallu oherwydd fy holl elynion. Ewch ymaith oddi wrthyf, holl wneuthurwyr drygioni, oherwydd clywodd yr ARGLWYDD fi'n wylo. Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar fy neisyfiad, ac y mae'r ARGLWYDD yn derbyn fy ngweddi.
Salm 6:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau. Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion. Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr ARGLWYDD a glywodd lef fy wylofain. Clybu yr ARGLWYDD fy neisyfiad: yr ARGLWYDD a dderbyn fy ngweddi.