Salm 6:1-10
Salm 6:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ARGLWYDD, paid â'm ceryddu yn dy ddig, paid â'm cosbi yn dy lid. Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg; iachâ fi, ARGLWYDD, oherwydd brawychwyd fy esgyrn, y mae fy enaid mewn arswyd mawr. Tithau, ARGLWYDD, am ba hyd? Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid; achub fi er mwyn dy ffyddlondeb. Oherwydd nid oes cofio amdanat ti yn angau; pwy sy'n dy foli di yn Sheol? Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan; bob nos y mae fy ngwely'n foddfa, trochaf fy ngobennydd â'm dagrau. Pylodd fy llygaid gan ofid, a phallu oherwydd fy holl elynion. Ewch ymaith oddi wrthyf, holl wneuthurwyr drygioni, oherwydd clywodd yr ARGLWYDD fi'n wylo. Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar fy neisyfiad, ac y mae'r ARGLWYDD yn derbyn fy ngweddi. Bydded cywilydd a dryswch i'm holl elynion; trônt yn ôl a'u cywilyddio'n sydyn.
Salm 6:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a’m cosbi i, paid dweud y drefn yn dy wylltineb. Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD, achos dw i mor wan. Iachâ fi, ARGLWYDD, dw i’n crynu at yr asgwrn. Dw i wedi dychryn am fy mywyd, ac rwyt ti, ARGLWYDD … – O, am faint mwy? ARGLWYDD, tyrd! Achub fi! Dangos mor ffyddlon wyt ti. Gollwng fi’n rhydd! Dydy’r rhai sydd wedi marw ddim yn dy gofio di. Pwy sy’n dy foli di yn ei fedd? Dw i wedi blino tuchan. Mae fy ngwely’n wlyb gan ddagrau bob nos; mae dagrau wedi socian lle dw i’n gorwedd. Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder, dw i wedi ymlâdd o achos fy holl elynion. Ewch i ffwrdd, chi sy’n gwneud drwg! Mae’r ARGLWYDD wedi fy nghlywed i’n crio. Mae wedi fy nghlywed i’n pledio am help. Bydd yr ARGLWYDD yn ateb fy ngweddi. Bydd fy holl elynion yn cael eu siomi a’u dychryn. Byddan nhw’n troi yn ôl yn sydyn, wedi’u siomi.
Salm 6:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid. Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O ARGLWYDD; canys fy esgyrn a gystuddiwyd. A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, ARGLWYDD, pa hyd? Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd. Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna? Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau. Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion. Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr ARGLWYDD a glywodd lef fy wylofain. Clybu yr ARGLWYDD fy neisyfiad: yr ARGLWYDD a dderbyn fy ngweddi. Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.