Salm 56:1-13
Salm 56:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dangos drugaredd ata i, O Dduw, dw i’n cael fy erlid! Mae’r gelynion yn ymosod arna i drwy’r amser. Maen nhw’n fy ngwylio i ac yn fy erlid i’n ddi-baid. Mae cymaint ohonyn nhw yn ymladd yn fy erbyn! O Dduw, y Goruchaf. Pan mae gen i ofn, dw i’n dy drystio di – Duw, yr un dw i’n gwybod sy’n cadw ei air! Dw i’n trystio Duw, does gen i ddim ofn. Beth all dynion meidrol ei wneud i mi? Maen nhw’n twistio fy ngeiriau a dim ond eisiau gwneud niwed i mi. Maen nhw’n dod at ei gilydd i ysbïo arna i. Maen nhw’n gwylio pob symudiad, ac yn edrych am gyfle i’m lladd. Wyt ti’n mynd i adael iddyn nhw lwyddo? Bwrw nhw i lawr yn dy lid, O Dduw! Ti’n cadw cofnod bob tro dw i’n ochneidio. Ti’n casglu fy nagrau mewn potel. Mae’r cwbl wedi’i ysgrifennu yn dy lyfr. Bydd y gelyn yn ffoi pan fydda i’n galw arnat ti. Achos dw i’n gwybod un peth – mae Duw ar fy ochr i. Duw, yr un dw i’n gwybod sy’n cadw ei air! Yr ARGLWYDD – dw i’n gwybod ei fod yn cadw ei air! Dw i’n trystio Duw, does gen i ddim ofn. Beth all dynion meidrol ei wneud i mi? Dw i’n mynd i gadw fy addewidion, O Dduw, a chyflwyno offrymau diolch i ti. Ti wedi achub fy mywyd i, a chadw fy nhraed rhag llithro. Dw i’n gallu byw i ti, O Dduw, a mwynhau goleuni bywyd.
Salm 56:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, oherwydd y mae pobl yn gwasgu arnaf, ac ymosodwyr yn fy ngorthrymu drwy'r dydd; y mae fy ngelynion yn gwasgu arnaf drwy'r dydd, a llawer yw'r rhai sy'n ymladd yn f'erbyn. Cod fi i fyny yn nydd fy ofn; yr wyf yn ymddiried ynot ti. Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi? Trwy'r dydd y maent yn ystumio fy ngeiriau, ac y mae eu holl fwriadau i'm drygu. Ymgasglant at ei gilydd a llechu, ac y maent yn gwylio fy nghamre. Fel y disgwyliant am fy mywyd, tâl iddynt am eu trosedd; yn dy ddig, O Dduw, darostwng bobloedd. Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau, ac wedi costrelu fy nagrau— onid ydynt yn dy lyfr? Yna troir fy ngelynion yn eu hôl yn y dydd y galwaf arnat. Hyn a wn: fod Duw o'm tu. Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn yr ARGLWYDD, y molaf ei air, yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi? Gwneuthum addunedau i ti, O Dduw; fe'u talaf i ti ag offrymau diolch. Oherwydd gwaredaist fy mywyd rhag angau, a'm camau, yn wir, rhag llithro, er mwyn imi rodio gerbron Duw yng ngoleuni'r bywyd.
Salm 56:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trugarha wrthyf, O DDUW: canys dyn a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma. Beunydd y’m llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O DDUW Goruchaf. Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti. Yn NUW y clodforaf ei air, yn NUW y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi. Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg. Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid. A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O DDUW, yn dy lidiowgrwydd. Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di? Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod DUW gyda mi. Yn NUW y moliannaf ei air: yn yr ARGLWYDD y moliannaf ei air. Yn NUW yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. Arnaf fi, O DDUW, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant. Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron DUW yng ngoleuni y rhai byw?