Salm 40:9-17
Salm 40:9-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i wedi dweud wrth y gynulleidfa fawr am dy gyfiawnder. Dw i wedi dal dim yn ôl. Ti’n gwybod hynny, O ARGLWYDD. Wnes i ddim cadw’r peth i mi fy hun; ond dweud wrth bawb dy fod ti’n Dduw ffyddlon ac yn achub! Dw i ddim wedi cadw’n dawel am dy ofal ffyddlon di. Tyrd, ARGLWYDD, paid atal dy dosturi oddi wrtho i. Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser. Mae peryglon di-ben-draw o’m cwmpas i ym mhobman. Mae fy mhechodau wedi fy nal i. Maen nhw wedi fy nallu! Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen! Dw i wedi dod i ben fy nhennyn! Plîs, ARGLWYDD, achub fi! O ARGLWYDD, brysia i’m helpu! Gwna i’r rhai sydd am fy lladd i deimlo embaras a chywilydd. Gwna i’r rhai sydd am wneud niwed i mi droi yn ôl mewn cywilydd. Gwna i’r rhai sy’n chwerthin ar fy mhen i gael eu cywilyddio a’u dinistrio. Ond gwna i bawb sy’n dy geisio di ddathlu’n llawen. Gwna i’r rhai sy’n mwynhau dy weld ti’n achub ddweud, “Mae’r ARGLWYDD mor fawr!” Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn, ond mae gan yr ARGLWYDD ei fwriadau ar fy nghyfer. Ti ydy’r un sy’n gallu fy helpu a’m hachub. O fy Nuw, paid oedi!
Salm 40:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bûm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr; nid wyf wedi atal fy ngwefusau, fel y gwyddost, O ARGLWYDD. Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon, ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth; ni chelais dy gariad a'th wirionedd rhag y gynulleidfa fawr. Paid tithau, ARGLWYDD, ag atal dy dosturi oddi wrthyf; bydded dy gariad a'th wirionedd yn fy nghadw bob amser. Oherwydd y mae drygau dirifedi wedi cau amdanaf; y mae fy nghamweddau wedi fy nal fel na allaf weld; y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen, ac y mae fy nghalon yn suddo. Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD; O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo. Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd, ar y rhai sy'n ceisio difa fy mywyd; bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi gael eu troi yn eu holau mewn dryswch. Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnaf gael eu syfrdanu gan eu gwaradwydd. Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di lawenhau a gorfoleddu ynot; bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth ddweud yn wastad, “Mawr yw'r ARGLWYDD.” Un tlawd ac anghenus wyf fi, ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf. Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd; fy Nuw, paid ag oedi!
Salm 40:9-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, ARGLWYDD, a’i gwyddost. Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a’th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog. Tithau, ARGLWYDD, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth. Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a’m daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf. Rhynged bodd i ti, ARGLWYDD, fy ngwaredu: brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth. Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg. Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha. Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr ARGLWYDD. Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus; eto yr ARGLWYDD a feddwl amdanaf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti; fy NUW, na hir drig.