Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 40:1-17

Salm 40:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar ôl disgwyl yn frwd i’r ARGLWYDD wneud rhywbeth, dyma fe’n troi ata i; roedd wedi gwrando arna i’n gweiddi am help. Cododd fi allan o’r pwll lleidiog a’r mwd trwchus. Rhoddodd fy nhraed ar graig, a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu. Roedd gen i gân newydd i’w chanu – cân o fawl i Dduw! Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e, ac yn dod i drystio’r ARGLWYDD. Mae’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD wedi’i fendithio’n fawr. Dydy e ddim yn troi am help at bobl sy’n brolio’u hunain ac yn dweud celwydd. O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint – wedi gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni. Does neb yn gallu dy rwystro di. Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill, ond mae yna ormod ohonyn nhw i’w cyfrif! Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau; mae hynny’n gwbl amlwg i mi! Ddim am aberthau i’w llosgi ac offrymau dros bechod rwyt ti’n gofyn. Felly dyma fi’n dweud, “O Dduw, dw i’n dod i wneud beth rwyt ti eisiau – fel mae wedi’i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.” Mae dy ddysgeidiaeth di’n rheoli fy mywyd i. Dw i wedi dweud wrth y gynulleidfa fawr am dy gyfiawnder. Dw i wedi dal dim yn ôl. Ti’n gwybod hynny, O ARGLWYDD. Wnes i ddim cadw’r peth i mi fy hun; ond dweud wrth bawb dy fod ti’n Dduw ffyddlon ac yn achub! Dw i ddim wedi cadw’n dawel am dy ofal ffyddlon di. Tyrd, ARGLWYDD, paid atal dy dosturi oddi wrtho i. Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser. Mae peryglon di-ben-draw o’m cwmpas i ym mhobman. Mae fy mhechodau wedi fy nal i. Maen nhw wedi fy nallu! Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen! Dw i wedi dod i ben fy nhennyn! Plîs, ARGLWYDD, achub fi! O ARGLWYDD, brysia i’m helpu! Gwna i’r rhai sydd am fy lladd i deimlo embaras a chywilydd. Gwna i’r rhai sydd am wneud niwed i mi droi yn ôl mewn cywilydd. Gwna i’r rhai sy’n chwerthin ar fy mhen i gael eu cywilyddio a’u dinistrio. Ond gwna i bawb sy’n dy geisio di ddathlu’n llawen. Gwna i’r rhai sy’n mwynhau dy weld ti’n achub ddweud, “Mae’r ARGLWYDD mor fawr!” Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn, ond mae gan yr ARGLWYDD ei fwriadau ar fy nghyfer. Ti ydy’r un sy’n gallu fy helpu a’m hachub. O fy Nuw, paid oedi!

Salm 40:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri. Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog, allan o'r mwd a'r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau'n ddiogel. Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd, cân o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD, ac nad yw'n troi at y beilchion, nac at y rhai sy'n dilyn twyll. Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw, yw'r rhyfeddodau a wnaethost, a'th fwriadau ar ein cyfer; nid oes tebyg i ti! Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd, ond maent yn rhy niferus i'w rhifo. Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm— rhoddaist imi glustiau agored— ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod. Felly dywedais, “Dyma fi'n dod; y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw, a bod dy gyfraith yn fy nghalon.” Bûm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr; nid wyf wedi atal fy ngwefusau, fel y gwyddost, O ARGLWYDD. Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon, ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth; ni chelais dy gariad a'th wirionedd rhag y gynulleidfa fawr. Paid tithau, ARGLWYDD, ag atal dy dosturi oddi wrthyf; bydded dy gariad a'th wirionedd yn fy nghadw bob amser. Oherwydd y mae drygau dirifedi wedi cau amdanaf; y mae fy nghamweddau wedi fy nal fel na allaf weld; y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen, ac y mae fy nghalon yn suddo. Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD; O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo. Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd, ar y rhai sy'n ceisio difa fy mywyd; bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi gael eu troi yn eu holau mewn dryswch. Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnaf gael eu syfrdanu gan eu gwaradwydd. Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di lawenhau a gorfoleddu ynot; bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth ddweud yn wastad, “Mawr yw'r ARGLWYDD.” Un tlawd ac anghenus wyf fi, ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf. Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd; fy Nuw, paid ag oedi!

Salm 40:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Disgwyliais yn ddyfal am yr ARGLWYDD; ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain. Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, allan o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad. A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n DUW ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr ARGLWYDD yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a wyrant at gelwydd. Lluosog y gwnaethost ti, O ARGLWYDD fy NUW, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo. Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech-aberth nis gofynnaist. Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhôl y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf. Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy NUW: a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon. Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, ARGLWYDD, a’i gwyddost. Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a’th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog. Tithau, ARGLWYDD, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth. Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a’m daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf. Rhynged bodd i ti, ARGLWYDD, fy ngwaredu: brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth. Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg. Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha. Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr ARGLWYDD. Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus; eto yr ARGLWYDD a feddwl amdanaf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti; fy NUW, na hir drig.