Salm 37:7-8
Salm 37:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD. Paid digio pan wyt ti’n gweld pobl eraill yn llwyddo wrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys. Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer. Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw yn y diwedd!
Rhanna
Darllen Salm 37Salm 37:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano; paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo, y gŵr sy'n gwneud cynllwynion. Paid â digio; rho'r gorau i lid; paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.
Rhanna
Darllen Salm 37Salm 37:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Distawa yn yr ARGLWYDD, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.
Rhanna
Darllen Salm 37