Salm 37:1-9
Salm 37:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo; paid bod yn genfigennus ohonyn nhw. Byddan nhw’n gwywo’n ddigon sydyn, fel glaswellt, ac yn diflannu fel egin gwan. Trystia’r ARGLWYDD a gwna beth sy’n dda. Setla i lawr yn y tir a mwynhau ei ffyddlondeb. Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser, a bydd e’n rhoi i ti bopeth rwyt ti eisiau. Rho dy hun yn nwylo’r ARGLWYDD a’i drystio fe; bydd e’n gweithredu ar dy ran di. Bydd e’n achub dy gam di o flaen pawb. Bydd y ffaith fod dy achos yn gyfiawn mor amlwg â’r haul ganol dydd. Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD. Paid digio pan wyt ti’n gweld pobl eraill yn llwyddo wrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys. Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer. Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw yn y diwedd! Bydd pobl ddrwg yn cael eu taflu allan, ond bydd y rhai sy’n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn meddiannu’r tir!
Salm 37:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg. Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt, a chrino fel glesni gwanwyn. Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel. Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon. Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD; ymddiried ynddo, ac fe weithreda. Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni a'th uniondeb fel haul canol dydd. Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano; paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo, y gŵr sy'n gwneud cynllwynion. Paid â digio; rho'r gorau i lid; paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny. Oherwydd dinistrir y rhai drwg, ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir.
Salm 37:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. Treigla dy ffordd ar yr ARGLWYDD, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. Distawa yn yr ARGLWYDD, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a etifeddant y tir.