Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 37:1-20

Salm 37:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg. Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt, a chrino fel glesni gwanwyn. Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel. Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon. Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD; ymddiried ynddo, ac fe weithreda. Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni a'th uniondeb fel haul canol dydd. Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano; paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo, y gŵr sy'n gwneud cynllwynion. Paid â digio; rho'r gorau i lid; paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny. Oherwydd dinistrir y rhai drwg, ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir. Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus; er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael. Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tir ac yn mwynhau heddwch llawn. Y mae'r drygionus yn cynllwyn yn erbyn y cyfiawn, ac yn ysgyrnygu ei ddannedd arno; ond y mae'r Arglwydd yn chwerthin am ei ben, oherwydd gŵyr fod ei amser yn dyfod. Y mae'r drygionus yn chwifio cleddyf ac yn plygu eu bwa, i ddarostwng y tlawd a'r anghenus, ac i ladd yr union ei gerddediad; ond fe drywana eu cleddyf i'w calon eu hunain, a thorrir eu bwâu. Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn na chyfoeth mawr y drygionus; oherwydd torrir nerth y drygionus, ond bydd yr ARGLWYDD yn cynnal y cyfiawn. Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros ddyddiau'r difeius, ac fe bery eu hetifeddiaeth am byth. Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg, a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn. Oherwydd fe dderfydd am y drygionus; bydd gelynion yr ARGLWYDD fel cynnud mewn tân, pob un ohonynt yn diflannu mewn mwg.

Salm 37:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. Treigla dy ffordd ar yr ARGLWYDD, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. Distawa yn yr ARGLWYDD, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a etifeddant y tir. Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono. Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd. Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno. Yr ARGLWYDD a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod. Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd. Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir. Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer. Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr ARGLWYDD a gynnal y rhai cyfiawn. Yr ARGLWYDD a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd. Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon. Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr ARGLWYDD fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy.