Salm 36:5-8
Salm 36:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymestyn dy gariad, ARGLWYDD, hyd y nefoedd, a'th ffyddlondeb hyd y cymylau; y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchel a'th farnau fel y dyfnder mawr; cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD. Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw! Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd. Fe'u digonir â llawnder dy dŷ, a diodi hwy o afon dy gysuron
Rhanna
Darllen Salm 36Salm 36:5-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, ARGLWYDD. Mor werthfawr yw dy drugaredd, O DDUW! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd. Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.
Rhanna
Darllen Salm 36