Salm 35:1-14
Salm 35:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymryson, O ARGLWYDD, yn erbyn y rhai sy'n ymryson â mi, ymladd yn erbyn y rhai sy'n ymladd â mi. Cydia mewn tarian a bwcled, a chyfod i'm cynorthwyo. Tyn allan y waywffon a'r bicell yn erbyn y rhai sy'n fy erlid; dywed wrthyf, “Myfi yw dy waredigaeth.” Doed cywilydd a gwarth ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd; bydded i'r rhai sy'n darparu drwg i mi droi yn eu holau mewn arswyd. Byddant fel us o flaen gwynt, ac angel yr ARGLWYDD ar eu holau. Bydded eu ffordd yn dywyll a llithrig, ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid. Oherwydd heb achos y maent wedi gosod rhwyd i mi, ac wedi cloddio pwll ar fy nghyfer. Doed distryw yn ddiarwybod arnynt, dalier hwy yn y rhwyd a osodwyd ganddynt, a bydded iddynt hwy eu hunain syrthio i'w distryw. Ond llawenhaf fi yn yr ARGLWYDD, a gorfoleddu yn ei waredigaeth. Bydd fy holl esgyrn yn gweiddi, “Pwy, ARGLWYDD, sydd fel tydi, yn gwaredu'r tlawd rhag un cryfach nag ef, y tlawd a'r anghenus rhag un sy'n ei ysbeilio?” Fe gyfyd tystion maleisus i'm holi am bethau nas gwn. Talant imi ddrwg am dda, a gwneud ymgais am fy mywyd. A minnau, pan oeddent hwy yn glaf, oeddwn yn gwisgo sachliain, yn ymddarostwng mewn ympryd, yn plygu pen mewn gweddi, fel pe dros gyfaill neu frawd imi; yn mynd o amgylch fel un yn galaru am ei fam, wedi fy narostwng ac mewn galar.
Salm 35:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dadlau fy nadl, ARGLWYDD, yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn: ymladd â’r rhai a ymladdant â mi. Ymafael yn y darian a’r astalch, a chyfod i’m cymorth. Dwg allan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth. Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu. Byddant fel us o flaen y gwynt: ac angel yr ARGLWYDD yn eu herlid. Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid. Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid. Deued arno ddistryw ni wypo; a’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw. A llawenycha fy enaid i yn yr ARGLWYDD: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef. Fy holl esgyrn a ddywedant, O ARGLWYDD, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a’r tlawd, rhag y neb a’i hysbeilio? Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho. Talasant i mi ddrwg dros dda, i ysbeilio fy enaid. A minnau, pan glafychent hwy, oeddwn â’m gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a’m gweddi a ddychwelodd i’m mynwes fy hun. Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam.