Salm 34:4-11
Salm 34:4-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rôn i wedi troi at yr ARGLWYDD am help, ac atebodd fi. Achubodd fi o’m holl ofnau. Mae’r rhai sy’n troi ato yn wên i gyd; does dim mymryn o gywilydd ar eu hwynebau. Dyma i chi ddyn anghenus wnaeth alw arno, a dyma’r ARGLWYDD yn gwrando ac yn ei achub o’i holl drafferthion. Mae angel yr ARGLWYDD fel byddin yn amddiffyn y rhai sy’n ei ddilyn yn ffyddlon, ac mae’n eu hachub nhw. Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy’r ARGLWYDD. Mae’r rhai sy’n troi ato am loches wedi’u bendithio’n fawr. Arhoswch yn ffyddlon i’r ARGLWYDD, chi sydd wedi’ch dewis ganddo, mae gan y rhai sy’n ffyddlon iddo bopeth sydd arnyn nhw ei angen. Mae llewod ifanc yn gallu bod heb fwyd ac yn llwgu weithiau, ond fydd dim angen ar y rhai hynny sy’n troi at yr ARGLWYDD am help. Dewch, blant, gwrandwch arna i. Dysga i chi beth mae parchu’r ARGLWYDD yn ei olygu.
Salm 34:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fi a'm gwaredu o'm holl ofnau. Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi, ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau. Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywed ac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau. Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni, ac y mae'n eu gwaredu. Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo. Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef, oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna. Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu, ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da. Dewch, blant, gwrandewch arnaf, dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD.
Salm 34:4-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ceisiais yr ARGLWYDD, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn. Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd. Y tlawd hwn a lefodd, a’r ARGLWYDD a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau. Angel yr ARGLWYDD a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt. Profwch, a gwelwch mor dda yw yr ARGLWYDD: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo. Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef. Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr ARGLWYDD, ni bydd arnynt eisiau dim daioni. Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr ARGLWYDD.