Salm 34:11-22
Salm 34:11-22 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dewch, blant, gwrandwch arna i. Dysga i chi beth mae parchu’r ARGLWYDD yn ei olygu. Ydych chi eisiau mwynhau bywyd? Ydych chi eisiau byw yn hir a bod yn llwyddiannus? Rhaid i chi reoli’ch tafod a stopio twyllo, troi cefn ar ddrwg a gwneud beth sy’n dda; a gwneud eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb. Mae’r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn, ac yn gwrando’n astud pan maen nhw’n galw arno. Ond mae e yn erbyn y rhai sy’n gwneud drygioni – bydd yn cael gwared â phob atgof ohonyn nhw o’r ddaear. Pan mae’r rhai sy’n byw’n iawn yn gweiddi am help, mae’r ARGLWYDD yn gwrando ac yn eu hachub nhw o’u holl drafferthion. Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio. Mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion, ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwy’r cwbl. Mae’n amddiffyn eu hesgyrn; fydd dim un yn cael ei dorri! Mae pobl ddrwg yn cael eu dinistrio gan eu drygioni eu hunain. Bydd y rhai sy’n casáu pobl dduwiol yn cael eu cosbi. Ond mae’r rhai sy’n gwasanaethu’r ARGLWYDD yn cael mynd yn rhydd! Fydd y rhai sy’n troi ato fe am loches ddim yn cael eu cosbi.
Salm 34:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dewch, blant, gwrandewch arnaf, dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD. Pwy ohonoch sy'n dymuno bywyd ac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni? Cadw dy dafod rhag drygioni a'th wefusau rhag llefaru celwydd. Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda, ceisia heddwch a'i ddilyn. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w cri. Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg, i ddileu eu coffa o'r ddaear. Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDD a'u gwaredu o'u holl gyfyngderau. Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd. Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn, ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan. Ceidw ei holl esgyrn, ac ni thorrir yr un ohonynt. Y mae adfyd yn lladd y drygionus, a chosbir y rhai sy'n casáu'r cyfiawn. Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision, ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.
Salm 34:11-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr ARGLWYDD. Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni? Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll. Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi. Llygaid yr ARGLWYDD sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt. Wyneb yr ARGLWYDD sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear. Y rhai cyfiawn a lefant; a’r ARGLWYDD a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau. Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd. Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr ARGLWYDD a’i gwared ef oddi wrthynt oll. Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt. Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir. Yr ARGLWYDD a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.