Salm 33:16-22
Salm 33:16-22 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Nid byddin fawr sy’n achub y brenin; na’i gryfder ei hun sy’n achub milwr dewr. Dydy march rhyfel ddim yn gallu ennill brwydr; er ei fod mor gryf, dydy e ddim yn gallu achub. Yr ARGLWYDD sy’n gofalu am ei bobl, sef y rhai sy’n credu ei fod e’n ffyddlon. Fe sy’n eu harbed nhw rhag cael eu lladd, ac yn eu cadw nhw’n fyw mewn cyfnod o newyn. Mae’n gobaith ni yn yr ARGLWYDD! Fe sy’n ein helpu ni, ac yn darian i’n hamddiffyn. Fe sy’n ein gwneud ni mor llawen! Dŷn ni’n credu yn ei enw sanctaidd e. O ARGLWYDD, gad i ni brofi dy haelioni, gan ein bod wedi credu ynot ti.
Salm 33:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid gan fyddin gref y gwaredir brenin, ac nid â nerth mawr yr achubir rhyfelwr. Ofer ymddiried mewn march am waredigaeth; er ei holl gryfder ni all roi ymwared. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y rhai a'i hofna, ar y rhai sy'n disgwyl wrth ei ffyddlondeb, i'w gwaredu rhag marwolaeth a'u cadw'n fyw yng nghanol newyn. Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD; ef yw ein cymorth a'n tarian. Y mae ein calon yn llawenychu ynddo am inni ymddiried yn ei enw sanctaidd. O ARGLWYDD, dangos dy ffyddlondeb tuag atom, fel yr ydym wedi gobeithio ynot.
Salm 33:16-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder. Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder. Wele, y mae llygad yr ARGLWYDD ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef; I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn. Ein henaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD: efe yw ein porth a’n tarian. Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef. Bydded dy drugaredd, ARGLWYDD, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.