Salm 33:1-9
Salm 33:1-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Chi, rai cyfiawn, canwch yn llawen i’r ARGLWYDD! Mae’n beth da i’r rhai sy’n byw’n gywir ei foli. Molwch yr ARGLWYDD gyda’r delyn; canwch iddo ar yr offeryn dectant. Canwch gân newydd iddo i gyfeiliant hyfryd a bwrlwm llawenydd. Achos mae beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud yn iawn; ac mae’r cwbl mae’n ei wneud yn gywir. Mae e’n caru beth sy’n deg ac yn gyfiawn, ac mae ei ofal ffyddlon i’w weld drwy’r byd i gyd. Dwedodd y gair, a dyma’r awyr yn cael ei chreu. Anadlodd, a daeth y sêr a’r planedau i fod. Mae e’n casglu dŵr y moroedd yn bentwr, ac yn ei gadw yn ei stordai. Dylai’r byd i gyd barchu’r ARGLWYDD! Dylai pob person byw ei ofni! Siaradodd, a digwyddodd y peth; rhoddodd orchymyn, a dyna fu.
Salm 33:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn; i'r rhai uniawn gweddus yw moliant. Molwch yr ARGLWYDD â'r delyn, canwch salmau iddo â'r offeryn dectant; canwch iddo gân newydd, tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd. Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD, ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd. Y mae'n caru cyfiawnder a barn; y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD. Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd, a'i holl lu trwy anadl ei enau. Casglodd y môr fel dŵr mewn potel, a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai. Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD, ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo. Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu; gorchmynnodd ef, a dyna a safodd.
Salm 33:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn, yn yr ARGLWYDD: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl. Molwch yr ARGLWYDD â’r delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant. Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus. Canys uniawn yw gair yr ARGLWYDD; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb. Efe a gâr gyfiawnder a barn: o drugaredd yr ARGLWYDD y mae y ddaear yn gyflawn. Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef. Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau. Ofned yr holl ddaear yr ARGLWYDD: holl drigolion y byd arswydant ef. Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd.