Salm 27:4-9
Salm 27:4-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gofynnais i’r ARGLWYDD am un peth – dyma beth dw i wir eisiau: dw i eisiau aros yn nhŷ’r ARGLWYDD am weddill fy mywyd, i ryfeddu ar haelioni’r ARGLWYDD, a myfyrio yn ei deml. Bydd e’n fy nghuddio i pan dw i mewn perygl; bydda i’n saff yn ei babell. Bydd yn fy ngosod i ar graig ddiogel, allan o gyrraedd y gelyn. Bydda i’n ennill y frwydr yn erbyn y gelynion sydd o’m cwmpas. Bydda i’n cyflwyno aberthau i Dduw, ac yn gweiddi’n llawen. Bydda i’n canu ac yn cyfansoddi cerddoriaeth i foli’r ARGLWYDD. O ARGLWYDD, gwranda arna i’n galw arnat ti. Bydd yn garedig ata i. Ateb fi! Dw i’n gwybod dy fod ti’n dweud, “Ceisiwch fi.” Felly, ARGLWYDD, dw i’n dy geisio di. Paid troi cefn arna i. Paid gwthio fi i ffwrdd. Ti sy’n gallu fy helpu i. Paid gwrthod fi! Paid â’m gadael i. O Dduw, ti ydy’r un sy’n fy achub i.
Salm 27:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma'r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml. Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd, a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig. Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch; ac offrymaf finnau yn ei deml aberthau llawn gorfoledd; canaf, canmolaf yr ARGLWYDD. Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf; bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi. Dywedodd fy nghalon amdanat, “Ceisia ei wyneb”; am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf, na throi ymaith dy was mewn dicter, oherwydd buost yn gymorth i mi; paid â'm gwrthod na'm gadael, O Dduw, fy Ngwaredwr.
Salm 27:4-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Un peth a ddeisyfais i gan yr ARGLWYDD, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr ARGLWYDD, ac i ymofyn yn ei deml. Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD. Clyw, O ARGLWYDD, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O ARGLWYDD. Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O DDUW fy iachawdwriaeth.