Salm 27:4-6
Salm 27:4-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gofynnais i’r ARGLWYDD am un peth – dyma beth dw i wir eisiau: dw i eisiau aros yn nhŷ’r ARGLWYDD am weddill fy mywyd, i ryfeddu ar haelioni’r ARGLWYDD, a myfyrio yn ei deml. Bydd e’n fy nghuddio i pan dw i mewn perygl; bydda i’n saff yn ei babell. Bydd yn fy ngosod i ar graig ddiogel, allan o gyrraedd y gelyn. Bydda i’n ennill y frwydr yn erbyn y gelynion sydd o’m cwmpas. Bydda i’n cyflwyno aberthau i Dduw, ac yn gweiddi’n llawen. Bydda i’n canu ac yn cyfansoddi cerddoriaeth i foli’r ARGLWYDD.
Salm 27:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma'r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml. Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd, a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig. Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch; ac offrymaf finnau yn ei deml aberthau llawn gorfoledd; canaf, canmolaf yr ARGLWYDD.
Salm 27:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Un peth a ddeisyfais i gan yr ARGLWYDD, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr ARGLWYDD, ac i ymofyn yn ei deml. Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD.