Salm 24:1-4
Salm 24:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yr ARGLWYDD piau’r ddaear a phopeth sydd ynddi: y byd, a phawb sy’n byw ynddo. Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd, a’i sefydlu ar ffrydiau’r dyfnder. Pwy sy’n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD? Pwy sy’n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? Yr un sy’n gwneud beth sy’n iawn a’i gymhellion yn bur; yr un sydd ddim yn twyllo neu’n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.
Salm 24:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear a'i llawnder, y byd a'r rhai sy'n byw ynddo; oherwydd ef a'i sylfaenodd ar y moroedd a'i sefydlu ar yr afonydd. Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD a phwy a saif yn ei le sanctaidd? Y glân ei ddwylo a'r pur o galon, yr un sydd heb osod ei feddwl ar dwyll a heb dyngu'n gelwyddog.
Salm 24:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eiddo yr ARGLWYDD y ddaear, a’i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo. Canys efe a’i seiliodd ar y moroedd, ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd. Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef? Y glân ei ddwylo, a’r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.