Salm 23:1-5
Salm 23:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf. Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision, a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel, ac y mae ef yn fy adfywio. Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro. Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaen yng ngŵydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.
Salm 23:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen. Mae’n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd, ac yn fy arwain at ddŵr glân sy’n llifo’n dawel. Mae’n rhoi bywyd newydd i mi, ac yn dangos i mi’r ffordd iawn i fynd. Ydy, mae e’n enwog am ei ofal. Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd, fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi. Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i. Rwyt ti’n paratoi gwledd i mi ac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio. Rwyt ti’n tywallt olew ar fy mhen. Mae gen i fwy na digon!
Salm 23:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ARGLWYDD yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn.