Salm 22:3-5
Salm 22:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ti ydy’r Duw Sanctaidd! Rwyt ti’n eistedd ar dy orsedd, ac yn derbyn mawl pobl Israel. Ti oedd ein hynafiaid ni’n ei drystio. Roedden nhw’n dy drystio di a dyma ti’n eu hachub nhw. Dyma nhw’n gweiddi arnat ti a llwyddo i ddianc; roedden nhw wedi dy drystio di, a chawson nhw mo’u siomi.
Salm 22:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orseddu yn foliant i Israel. Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried, yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu. Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy, ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy.
Salm 22:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel. Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt. Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt.