Salm 22:23-24
Salm 22:23-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ie, chi sy’n addoli’r ARGLWYDD, canwch fawl iddo! Chi ddisgynyddion Jacob, anrhydeddwch e! Chi bobl Israel i gyd, safwch o’i flaen mewn rhyfeddod! Wnaeth e ddim dirmygu na diystyru cri’r anghenus; wnaeth e ddim troi ei gefn arno. Pan oedd yn gweiddi am help, gwrandawodd Duw.
Salm 22:23-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Molwch ef, chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD; rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob; ofnwch ef, holl dylwyth Israel. Oherwydd ni ddirmygodd na diystyru gorthrwm y gorthrymedig; ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho, ond gwrando arno pan lefodd.”
Salm 22:23-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y rhai sydd yn ofni yr ARGLWYDD, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef. Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.