Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 22:12-31

Salm 22:12-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae teirw o’m cwmpas ym mhobman. Mae teirw cryfion Bashan yn fy mygwth. Maen nhw’n barod i’m llyncu i, fel llewod yn rhuo ac yn rhwygo ysglyfaeth. Dw i bron marw! Mae fy esgyrn i gyd wedi dod o’u lle, ac mae fy nghalon yn wan fel cwyr yn toddi tu mewn i mi. Mae fy egni wedi sychu fel potyn pridd. Mae fy nhafod wedi glynu i dop fy ngheg. Rwyt wedi fy rhoi i lwch marwolaeth. Mae cŵn wedi casglu o’m cwmpas! Criw o fwlis yn cau amdana i ac yn fy nal i lawr gerfydd fy nwylo a’m traed. Dw i’n ddim byd ond swp o esgyrn, ac maen nhw’n syllu arna i a chwerthin. Maen nhw’n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, ac yn gamblo am fy nghrys. O ARGLWYDD, paid ti cadw draw. Ti sy’n rhoi nerth i mi. Brysia, helpa fi! Achub fi rhag y cleddyf, achub fy mywyd o afael y cŵn! Gad i mi ddianc oddi wrth y llew; achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt. Ateb fi! Bydda i’n dweud wrth fy mrodyr sut un wyt ti; ac yn canu mawl i ti gyda’r rhai sy’n dy addoli. Ie, chi sy’n addoli’r ARGLWYDD, canwch fawl iddo! Chi ddisgynyddion Jacob, anrhydeddwch e! Chi bobl Israel i gyd, safwch o’i flaen mewn rhyfeddod! Wnaeth e ddim dirmygu na diystyru cri’r anghenus; wnaeth e ddim troi ei gefn arno. Pan oedd yn gweiddi am help, gwrandawodd Duw. Dyna pam dw i’n dy foli di yn y gynulleidfa fawr, ac yn cadw fy addewidion o flaen y rhai sy’n dy addoli. Bydd yr anghenus yn bwyta ac yn cael digon! Bydd y rhai sy’n dilyn yr ARGLWYDD yn canu mawl iddo – byddwch yn llawen bob amser! Bydd pobl drwy’r byd i gyd yn gwrando ac yn troi at yr ARGLWYDD. Bydd pobl y gwledydd i gyd yn ei addoli, am mai’r ARGLWYDD ydy’r Brenin! Fe sy’n teyrnasu dros y cenhedloedd. Bydd pawb sy’n iach yn plygu i’w addoli; a phawb sydd ar fin marw – ar wely angau – yn plygu glin o’i flaen! Bydd plant yn ei wasanaethu; a bydd enw’r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi i’r genhedlaeth sydd i ddod. Byddan nhw’n dweud am ei gyfiawnder wrth y rhai sydd ddim eto wedi’u geni! Mae e wedi’i wneud!

Salm 22:12-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y mae gyr o deirw o'm cwmpas, rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf; y maent yn agor eu safn amdanaf fel llew yn rheibio a rhuo. Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr, a'm holl esgyrn yn ymddatod; y mae fy nghalon fel cwyr, ac yn toddi o'm mewn; y mae fy ngheg yn sych fel cragen a'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau; yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth. Y mae cŵn o'm hamgylch, haid o ddihirod yn cau amdanaf; y maent yn trywanu fy nwylo a'm traed. Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn, ac y maent hwythau'n edrych ac yn rhythu arnaf. Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg. Ond ti, ARGLWYDD, paid â sefyll draw; O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo. Gwared fi rhag y cleddyf, a'm hunig fywyd o afael y cŵn. Achub fi o safn y llew, a'm bywyd tlawd rhag cyrn yr ychen gwyllt. Fe gyhoeddaf dy enw i'm cydnabod, a'th foli yng nghanol y gynulleidfa: “Molwch ef, chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD; rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob; ofnwch ef, holl dylwyth Israel. Oherwydd ni ddirmygodd na diystyru gorthrwm y gorthrymedig; ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho, ond gwrando arno pan lefodd.” Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr, a thalaf fy addunedau yng ngŵydd y rhai sy'n ei ofni. Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon, a'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei foli. Bydded i'w calonnau fyw byth! Bydd holl gyrrau'r ddaear yn cofio ac yn dychwelyd at yr ARGLWYDD, a holl dylwythau'r cenhedloedd yn ymgrymu o'i flaen. Oherwydd i'r ARGLWYDD y perthyn brenhiniaeth, ac ef sy'n llywodraethu dros y cenhedloedd. Sut y gall y rhai sy'n cysgu yn y ddaear blygu iddo ef, a'r rhai sy'n disgyn i'r llwch ymgrymu o'i flaen? Ond byddaf fi fyw iddo ef, a bydd fy mhlant yn ei wasanaethu; dywedir am yr ARGLWYDD wrth genedlaethau i ddod, a chyhoeddi ei gyfiawnder wrth bobl heb eu geni, mai ef a fu'n gweithredu.

Salm 22:12-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant. Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy. Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd. Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y’m dygaist. Canys cŵn a’m cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a’m traed. Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf. Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren. Ond tydi, ARGLWYDD, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo. Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci. Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist. Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf. Y rhai sydd yn ofni yr ARGLWYDD, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef. Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd. Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef. Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr ARGLWYDD, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd. Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr ARGLWYDD: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di. Canys eiddo yr ARGLWYDD yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd. Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i’r llwch, a ymgrymant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun. Eu had a’i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i’r ARGLWYDD yn genhedlaeth. Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.