Salm 22:12-21
Salm 22:12-21 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae teirw o’m cwmpas ym mhobman. Mae teirw cryfion Bashan yn fy mygwth. Maen nhw’n barod i’m llyncu i, fel llewod yn rhuo ac yn rhwygo ysglyfaeth. Dw i bron marw! Mae fy esgyrn i gyd wedi dod o’u lle, ac mae fy nghalon yn wan fel cwyr yn toddi tu mewn i mi. Mae fy egni wedi sychu fel potyn pridd. Mae fy nhafod wedi glynu i dop fy ngheg. Rwyt wedi fy rhoi i lwch marwolaeth. Mae cŵn wedi casglu o’m cwmpas! Criw o fwlis yn cau amdana i ac yn fy nal i lawr gerfydd fy nwylo a’m traed. Dw i’n ddim byd ond swp o esgyrn, ac maen nhw’n syllu arna i a chwerthin. Maen nhw’n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, ac yn gamblo am fy nghrys. O ARGLWYDD, paid ti cadw draw. Ti sy’n rhoi nerth i mi. Brysia, helpa fi! Achub fi rhag y cleddyf, achub fy mywyd o afael y cŵn! Gad i mi ddianc oddi wrth y llew; achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt. Ateb fi!
Salm 22:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae gyr o deirw o'm cwmpas, rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf; y maent yn agor eu safn amdanaf fel llew yn rheibio a rhuo. Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr, a'm holl esgyrn yn ymddatod; y mae fy nghalon fel cwyr, ac yn toddi o'm mewn; y mae fy ngheg yn sych fel cragen a'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau; yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth. Y mae cŵn o'm hamgylch, haid o ddihirod yn cau amdanaf; y maent yn trywanu fy nwylo a'm traed. Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn, ac y maent hwythau'n edrych ac yn rhythu arnaf. Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg. Ond ti, ARGLWYDD, paid â sefyll draw; O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo. Gwared fi rhag y cleddyf, a'm hunig fywyd o afael y cŵn. Achub fi o safn y llew, a'm bywyd tlawd rhag cyrn yr ychen gwyllt.
Salm 22:12-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant. Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy. Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd. Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y’m dygaist. Canys cŵn a’m cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a’m traed. Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf. Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren. Ond tydi, ARGLWYDD, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo. Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci. Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist.