Salm 22:1-8
Salm 22:1-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i? Dw i’n griddfan mewn poen, pam wyt ti ddim yn fy achub i? Fy Nuw, dw i’n galw arnat ti drwy’r dydd, ond ti ddim yn ateb. Dw i’n dal ati drwy’r nos heb orffwys o gwbl. Ti ydy’r Duw Sanctaidd! Rwyt ti’n eistedd ar dy orsedd, ac yn derbyn mawl pobl Israel. Ti oedd ein hynafiaid ni’n ei drystio. Roedden nhw’n dy drystio di a dyma ti’n eu hachub nhw. Dyma nhw’n gweiddi arnat ti a llwyddo i ddianc; roedden nhw wedi dy drystio di, a chawson nhw mo’u siomi. Dw i’n neb. Pryf ydw i, nid dyn! Dw i’n cael fy wfftio gan bobl, a’m dirmygu. Dw i’n destun sbort i bawb. Maen nhw’n gwneud ystumiau arna i, ac yn ysgwyd eu pennau. “Mae e wedi trystio’r ARGLWYDD; felly gadewch i’r ARGLWYDD ei achub, a’i ollwng e’n rhydd! Mae e mor hoff ohono!”
Salm 22:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael, ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac oddi wrth eiriau fy ngriddfan? O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb, a'r nos, ond ni chaf lonyddwch. Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orseddu yn foliant i Israel. Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried, yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu. Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy, ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy. Pryfyn wyf fi ac nid dyn, gwawd a dirmyg i bobl. Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar, yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen: “Rhoes ei achos i'r ARGLWYDD, bydded iddo ef ei achub! Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!”
Salm 22:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy NUW, fy NUW, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain? Fy NUW, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi. Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel. Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt. Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt. A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl. Pawb a’r a’m gwelant, a’m gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd, Ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo.