Salm 22:1-3
Salm 22:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i? Dw i’n griddfan mewn poen, pam wyt ti ddim yn fy achub i? Fy Nuw, dw i’n galw arnat ti drwy’r dydd, ond ti ddim yn ateb. Dw i’n dal ati drwy’r nos heb orffwys o gwbl. Ti ydy’r Duw Sanctaidd! Rwyt ti’n eistedd ar dy orsedd, ac yn derbyn mawl pobl Israel.
Salm 22:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael, ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac oddi wrth eiriau fy ngriddfan? O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb, a'r nos, ond ni chaf lonyddwch. Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orseddu yn foliant i Israel.
Salm 22:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy NUW, fy NUW, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain? Fy NUW, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi. Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel.