Salm 19:1-4
Salm 19:1-4 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae’r nefoedd yn dangos ysblander Duw, a’r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo. Mae’r neges yn mynd allan bob dydd; mae i’w gweld yn amlwg bob nos! Does dim llais go iawn, na geiriau, na dim i’w glywed yn llythrennol. Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhw’n ddweud; a’r neges wedi mynd i ben draw’r byd!
Salm 19:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo. Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd, a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos. Nid oes iaith na geiriau ganddynt, ni chlywir eu llais; eto fe â eu sain allan drwy'r holl ddaear a'u lleferydd hyd eithafoedd byd. Ynddynt gosododd babell i'r haul
Salm 19:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant DUW; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt. Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt