Salm 126:1-6
Salm 126:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl i’r ARGLWYDD roi llwyddiant i Seion eto, roedden ni fel rhai’n breuddwydio – roedden ni’n chwerthin yn uchel, ac yn canu’n llon. Roedd pobl y cenhedloedd yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr iddyn nhw!” Ydy, mae’r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr i ni. Dŷn ni mor hapus! O ARGLWYDD, wnei di roi llwyddiant i ni eto, fel pan mae ffrydiau dŵr yn llifo yn anialwch y Negef? Bydd y rhai sy’n wylo wrth hau yn canu’n llawen wrth fedi’r cynhaeaf. Mae’r un sy’n cario’i sach o hadau yn crio wrth fynd i hau. Ond bydd yr un sy’n cario’r ysgubau yn dod adre dan ganu’n llon!
Salm 126:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan adferodd yr ARGLWYDD lwyddiant Seion, yr oeddem fel rhai wedi cael iachâd; yr oedd ein genau yn llawn chwerthin a'n tafodau yn bloeddio canu. Yna fe ddywedid ymysg y cenhedloedd, “Gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr iddynt hwy.” Yn wir, gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr i ni, a bu i ninnau lawenhau. O ARGLWYDD, adfer ein llwyddiant fel ffrydiau yn y Negef; bydded i'r rhai sy'n hau mewn dagrau fedi mewn gorfoledd. Bydd yr un sy'n mynd allan dan wylo, ac yn cario ei sach o hadyd, yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd, ac yn cario ei ysgubau.
Salm 126:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan ddychwelodd yr ARGLWYDD gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. Yr ARGLWYDD a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. Dychwel, ARGLWYDD, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.