Salm 119:97-99
Salm 119:97-99 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di! Dw i’n myfyrio ynddi drwy’r dydd. Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser; maen nhw’n fy ngwneud i’n gallach na’m gelynion; Dw i wedi dod i ddeall mwy na’m hathrawon i gyd, am fy mod i’n myfyrio ar dy ddeddfau di.
Rhanna
Darllen Salm 119Salm 119:97-99 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O fel yr wyf yn caru dy gyfraith! Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd. Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion, oherwydd y mae gyda mi bob amser. Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon, oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi.
Rhanna
Darllen Salm 119Salm 119:97-99 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
Rhanna
Darllen Salm 119