Salm 119:97-105
Salm 119:97-105 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di! Dw i’n myfyrio ynddi drwy’r dydd. Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser; maen nhw’n fy ngwneud i’n gallach na’m gelynion; Dw i wedi dod i ddeall mwy na’m hathrawon i gyd, am fy mod i’n myfyrio ar dy ddeddfau di. Dw i wedi dod i ddeall yn well na’r rhai mewn oed, am fy mod i’n cadw dy ofynion di. Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwg er mwyn gwneud beth rwyt ti’n ddweud. Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di, am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i. Mae’r pethau rwyt ti’n eu dweud mor dda, maen nhw’n felys fel mêl. Dy orchmynion di sy’n rhoi deall i mi, ac felly dw i’n casáu pob ffordd ffals. Mae dy eiriau di yn lamp i’m traed, ac yn goleuo fy llwybr.
Salm 119:97-105 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O fel yr wyf yn caru dy gyfraith! Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd. Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion, oherwydd y mae gyda mi bob amser. Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon, oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi. Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen, oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion. Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg, er mwyn imi gadw dy air. Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau, oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo. Mor felys yw dy addewid i'm genau, melysach na mêl i'm gwefusau. O'th ofynion di y caf ddeall; dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll. Y mae dy air yn llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr.
Salm 119:97-105 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr. Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr.