Salm 119:9-16
Salm 119:9-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? – drwy wneud fel rwyt ti’n dweud. Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti; paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di. Dw i’n trysori dy neges di yn fy nghalon, er mwyn peidio pechu yn dy erbyn. Rwyt ti’n fendigedig, O ARGLWYDD! Dysga dy ddeddfau i mi. Dw i’n ailadrodd yn uchel y rheolau rwyt ti wedi’u rhoi. Mae byw fel rwyt ti’n dweud yn rhoi mwy o lawenydd na’r cyfoeth mwya. Dw i am fyfyrio ar dy ofynion, a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd. Mae dy ddeddfau di’n rhoi’r pleser mwya i mi! Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti’n ddweud.
Salm 119:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân? Trwy gadw dy air di. Fe'th geisiais di â'm holl galon; paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion. Trysorais dy eiriau yn fy nghalon rhag imi bechu yn dy erbyn. Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD; dysg i mi dy ddeddfau. Bûm yn ailadrodd â'm gwefusau holl farnau dy enau. Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenydd sydd uwchlaw pob cyfoeth. Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di, ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid. Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau, ac nid anghofiaf dy air.
Salm 119:9-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn. Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau. A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau. Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud. Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf. Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.