Salm 119:89-96
Salm 119:89-96 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD; maen nhw’n ddiogel yn y nefoedd am byth. Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau! Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae’n aros yno. Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di, mae’r cwbl yn dy wasanaethu di. Byddwn i wedi marw o iselder oni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth. Wna i byth anghofio dy reolau di, rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi drwyddyn nhw. Ti sydd biau fi. Achub fi! Dw i wedi ymroi i wneud beth wyt ti eisiau. Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio, ond dw i’n myfyrio ar dy orchmynion. Mae yna ben draw i bopeth arall, ond mae dy orchmynion di’n ddiderfyn!
Salm 119:89-96 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol, wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth; seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll. Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw, oherwydd gweision i ti yw'r cyfan. Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi, byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd; nid anghofiaf dy ofynion hyd byth, oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi. Eiddot ti ydwyf; gwareda fi, oherwydd ceisiais dy ofynion. Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio, ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau. Gwelaf fod popeth yn dod i ben, ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.
Salm 119:89-96 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn dragywydd, O ARGLWYDD, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd. Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif. Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth. Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd. Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist. Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais. Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi. Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.