Salm 119:56-62
Salm 119:56-62 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyna dw i wedi’i wneud bob amser – ufuddhau i dy ofynion di. Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i: Dw i’n addo gwneud fel rwyt ti’n dweud. Dw i’n erfyn arnat ti o waelod calon: dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud. Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd, ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di. Heb unrhyw oedi, dw i’n brysio i wneud beth rwyt ti’n ei orchymyn. Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad, ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di. Ganol nos dw i’n codi i ddiolch am dy fod ti’n dyfarnu’n gyfiawn.
Salm 119:56-62 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Hyn sydd wir amdanaf, imi ufuddhau i'th ofynion. Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD; addewais gadw dy air. Yr wyf yn erfyn arnat â'm holl galon, bydd drugarog wrthyf yn ôl dy addewid. Pan feddyliaf am fy ffyrdd, trof fy nghamre'n ôl at dy farnedigaethau; brysiaf, heb oedi, i gadw dy orchmynion. Er i glymau'r drygionus dynhau amdanaf, eto nid anghofiais dy gyfraith. Codaf ganol nos i'th foliannu di am dy farnau cyfiawn.
Salm 119:56-62 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di. O ARGLWYDD, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau. Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air. Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di. Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion. Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di. Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.